Electroffil

Mewn cemeg, electroffil yw ïon neu foleciwl sy'n adweithio drwy dderbyn pâr o electronau wrth niwcleoffil. Mae gan y rhan fwyaf o electroffiliau wefr bositif, ond mae rhai moleciwlau niwtral heb yr wythawd o electronau yn ymddwyn fel electroffiliau hefyd. Gan fod electroffiliau yn derbyn pâr o electronau, asidau Lewis ydynt.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy